‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’ yn Ysgol Y Login Fach
Cynhaliodd Pwyllgor Eco Ysgol Y Login Fach ‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’ yn ystod mis Mehefin eleni, er mwyn annog pawb i wneud eu rhan i ofalu am amgylchfyd y gymuned leol a’r amgylchfyd yn gyffredinol. Nôd yr wythnos hon oedd bod cymaint o blant a staff â phosib yn ceisio gwneud ymdrech i gerdded naill ai bob cam (i’r rhai sy’n byw’n agos), neu rhan o’u taith i’r ysgol er mwyn lleihau faint o nwyon niweidiol o’r cerbydau sy’n mynd i’r atmosffer. Syniad arall a godwyd gan y pwyllgor hefyd oedd y gallai rhai plant rannu ceir os oeddynt yn byw’n agos i’w gilydd.
Cafodd arolwg o sut yr oedd y plant yn teithio i’r ysgol ei wneud cyn yr wythnos arbennig hon er mwyn cymharu canlyniadau’r ‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’ gyda’r ffyrdd arferol o ddod i’r ysgol. Canlyniad yr arolwg cyntaf oedd bod llawer iawn o blant yn teithio i’r ysgol yn eu ceir yn ddyddiol fel arfer. Ond wrth astudio’r ail arolwg, braf iawn oedd gweld bod llawer o blant wedi ymdrechu’n galed i gerdded i’r ysgol yn ystod ‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’. Trefnwyd ‘Diwrnod gwisgo Gwyrdd’ ar ddiwedd yr wythnos ac fe godwyd £173 o bunnoedd o ganlyniad i hyn.
Bu’r wythnos o gerdded yn un lwyddiannus iawn a gwnaeth llawer o blant fwynhau cymryd rhan yn y weithgaredd, gydag ambell riant hyd yn oed yn dweud eu bod wedi arbed tipyn o betrol yr wythnos honno! Diolch yn fawr iawn i bawb a ymdrechodd i gymryd rhan.

Gardd y Pwyllgor Eco
Mae’r Pwyllgor Eco hefyd wedi bod yn brysur iawn yn creu gardd yn yr ysgol. Gweithiodd y plant yn galed iawn i osod y pridd a phlannu mefus, mwyar, gwsberis, mintys, basil a rhosmari, gyda’r cyfan wedi tyfu’n llewyrchus iawn erbyn hyn. Cafodd y mintys ei werthu yn y ffair haf yn ddiweddar, a’r gobaith yw y caiff mwy o’r ffrwythau eu gwerthu yn y dyfodol er mwyn codi arian i gronfa’r pwyllgor.
